AROLWG O RAN O'R FFIN RHWNG SIR POWYS A BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL YN ARDAL PONTSTICILL
ADRODDIAD A CHYNIGION
- CYFLWYNIAD
- CRYNODEB GWEITHREDOL
- CWMPAS A PHWRPAS YR AROLWG
- CYNIGION DRAFFT
- CRYNODEB O'R SYLWADAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
- ASESU
- CYNIGION
- TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL
- CYDNABYDDIAETHAU
- YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
Brian Gibbons AC
Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cynulliad Cymru
1. CYFLWYNIAD
1.1 Rydym ni, y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ardal Pontsticill, fel sy'n ofynnol dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd, ("y Ddeddf").
2. CRYNODEB GWEITHREDOL
2.1 Cynigiwn newid y ffin rhwng Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ardal Pontsticill fel y nodir ar y map yn Atodiad B.
3. CWMPAS A PHWRPAS YR AROLWG
3.1 Mae Adran 54(1) y Ddeddf yn pennu y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gwblheir ganddynt, wneud cynigion i Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi newidiadau ar waith sy'n ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Gweithdrefn
3.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn pennu canllawiau gweithdrefnol i'w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw, ysgrifennom ar 19 Gorffennaf 2007 at Gyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Cymuned Tal-y-bont ar Wysg, Aelod Seneddol yr etholaethau lleol, Aelodau Cynulliad yr ardal, cymdeithasau'r awdurdod lleol, awdurdod yr heddlu ar gyfer yr ardal a phleidiau gwleidyddol i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal arolwg a gofyn am eu barnau cychwynnol. Gwahoddasom Gyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gyflwyno awgrymiadau ar gyfer newidiadau i'r ffin. Hefyd, cyhoeddasom ein bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol yn cylchredeg yn yr ardal a gofynnwyd i'r Cynghorau arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus.
4. CYNIGION DRAFFT
4.1 Mewn ymateb i'r gwahoddiad cychwynnol, cawsom sylwadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Powys, Rhaglawiaeth Morgannwg Ganol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys, Cwmni Rheilffordd Bannau Brycheiniog a phedwar o drigolion. Ystyriwyd pob un o'r sylwadau hyn a cheir crynodeb ohonynt yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 10 Ionawr 2008.
4.2 Gwnaethom ystyried y newid i'r ffin a awgrymwyd gan Gyngor Sir Powys a'r cynnig amgen a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a'r holl sylwadau a gawsom.
4.3 Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, nodom fod Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cefnogi newid i'r ffin a fyddai'n trosglwyddo'r ardal sy'n cael ei hawgrymu gan Gyngor Sir Powys (er i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful awgrymu ardal ychwanegol i'w throsglwyddo). Cefnogir egwyddor newid y ffin yn yr ardal hon gan Gyngor Cymuned Tal-y-bont ar Wysg, Rhaglawiaeth Morgannwg Ganol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys. Nodom, fodd bynnag, fod nifer o bryderon gan Gwmni Rheilffordd Bannau Brycheiniog a rhai o'r trigolion ynghylch y newid arfaethedig. Roedd rhai o'r pryderon yn ymwneud â'r newid o un sir i'r llall, ac roedd pryderon eraill yn rhai penodol i'r ffin benodol a oedd yn cael ei chynnig.
4.4 Roedd rhai o'r materion a godwyd yn y sylwadau cychwynnol yn ymwneud â daliadau tir amaethyddol yn cael eu hollti dros ddwy ardal prif gyngor. Er ein bod yn ymwybodol o arolygon eraill bod ffermydd yn croesi ffiniau sirol (a chymunedol), nid oeddem wedi derbyn sylwadau'n flaenorol gan dirfeddiannwr mewn perthynas â'r cyfryw ganlyniadau canfyddedig. Er mwyn i ni allu rhoi ein hystyriaeth lawn i'r materion a godir yn y sylwadau, cysylltom â Chyfarwyddiaeth Materion Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) a'r Gofrestrfa Tir i gael gwybodaeth. Ein dealltwriaeth ni yw mai rhif cyfeirnod a ddyrennir i ddaliadau at ddibenion llywodraeth / amaethyddol yw Daliad Plwyf Sirol (CPH). Ni fyddai tir sydd mewn 2 blwyf gwahanol yn cael unrhyw effaith gan fod LlCC yn defnyddio'r rhif CPH fel dynodwr yn unig ar sail lleoliad y prif ffermdy a'r adeiladau. Pe bai'r rhain yn cael eu newid i fod o fewn plwyf (cymuned) arall, yna byddai'r CPH yn cael ei newid. Defnyddir y CPH at ddibenion symud anifeiliaid, ond Is-adrannau LlCC sy'n gyfrifol am greu a hysbysu adrannau eraill am y rhif cywir. Mewn perthynas â'r pwrpas a'r arfer sy'n gysylltiedig â CPH, rydym wedi ein sicrhau na fyddai newid y ffin fel y cynigir yn rhoi dau rif CPH i un eiddo.
4.5 Mewn perthynas â chofrestru tir ac eiddo, cawsom wybod gan y Gofrestrfa Tir nad yw newidiadau i ardaloedd gweinyddol llywodraeth leol, o ran enw ac o ran ardal, yn effeithio ar berchenogaeth gyfreithlon tir/eiddo, gan nad oes unrhyw newid o ran maint y tir, boed yn dir wedi'i gofrestru neu heb ei gofrestru. Pan fydd newidiadau fel hyn yn digwydd mae'r Gofrestrfa Tir yn gallu diweddaru'i chofnodion yn electronig. Nid yw'n ofynnol i hysbysu'r perchennog cofrestredig am newidiadau tebyg, gan nad yw'r newid wedi newid eu perchenogaeth gyfreithlon.
4.6 Roedd y trigolion yn poeni ynghylch y cynnydd tebygol yn nhaliadau'r dreth gyngor o ganlyniad i'r newid. Nodom fod cyfraddau sylfaenol cyfredol y dreth gyngor yn uwch ym Merthyr Tudful nag ym Mhowys, er y byddai hyn yn cael ei unioni'n rhannol gan y ffaith bod y trigolion yn talu praesept ychwanegol ar hyn o bryd am Gyngor Cymuned Tal-y-bont ar Wysg, ond o dan y newid arfaethedig byddent yn ardal Cymuned Faenor ac nid oes ganddi gyngor cymuned ar hyn o bryd. Ystyriwn, fodd bynnag, na ddylai gwahaniaethau yn y Dreth Gyngor, fel mater o bolisi, ddylanwadu llawer, os o gwbl, ar y Comisiwn wrth benderfynu ar y ffin rhwng dwy ardal prif gyngor.
4.7 Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, roeddem o'r farn bod newid y ffin i gynnwys, fan lleiaf, yr ardal a awgrymir gan Gyngor Sir Powys, yn ymddangos yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus am y rhesymau a roddwyd gan Gyngor Sir Powys nad yw er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i anheddiad fel Pontsticill gael ei rannu fel hyn. Nodom ymestyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i'r awgrym hwn i gynnwys ardal sylweddol fwy o fewn eu ffiniau. Yn eu sylwadau, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful o'r farn y byddai eu ffin amgen yn fanteisiol o ran cynnwys Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Dolygaer, sy'n berchen i'r Cyngor, yn eu hardal nhw. Nodom, fodd bynnag, nad oedd yn anarferol i awdurdodau fod â buddiannau mewn cyfleusterau fel hyn y tu allan i'w hardaloedd eu hunain. Ystyriom, er y gall fod buddion i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful o ran cael eu Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored o fewn ardal eu cyngor, nad oedd hyn ynddo'i hyn yn teilyngu'r newid sylweddol i'r ffin a awgrymwyd ganddynt.
4.8 Ystyriom y pryderon a fynegwyd gan y trigolion a chan Gwmni Rheilffordd Bannau Brycheiniog ynghylch priodoldeb y ffin awgrymedig mewn rhai ardaloedd. Nodom y pryderon hyn ac aethom i ymweld â'r ardal er mwyn archwilio'r ffin sy'n cael ei hawgrymu gan Gyngor Sir Powys (a'r newid pellach a awgrymwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful). Roeddem o'r farn nad yw'r ffiniau awgrymedig, mewn rhannau, yn dilyn nodweddion daearyddol adnabyddadwy ac fel y cyfryw ni fyddai'n darparu ffiniau sirol priodol.
4.9 Gwnaethom astudio mapiau manwl o'r ardal a chynnal ymweliad safle arall er mwyn canfod ffin amgen a oedd, er nad mor helaeth â chynnig Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn cynnwys yr ardal o fewn y ffin sy'n cael ei chynnig gan Gyngor Sir Powys. Ystyriom ddefnyddio rhan o'r ffin bresennol rhwng Cymunedau Llangynidr a Thal-y-bont ar Wysg. Mae'r ffin hon yn dilyn llwybr troed cyhoeddus sydd ar waelod tarren Cefn yr Ystrad. Fodd bynnag, yn ystod ein hymweliad safle, nodom fod nifer o draciau wedi'u gwneud gan yr hyn a ymddangosai'n gerbydau modur, ac mewn mannau roedd hyn wedi'i gwneud yn anodd nodi cwrs y llwybr troed. Ymhellach i lawr o'r ffin gymunedol tuag at y gronfa ddwr, canfuom fod wal sylweddol o gerrig sychion yn rhedeg yn ddi-dor bron o'r ffin sirol bresennol tua'r gogledd at y nant sy'n llifo o Gwm Criban i mewn i'r gronfa ddwr. Nodom fod y wal sych hon yn nodi hefyd y rhaniad rhwng ardal y gweundir a'r ardal o gaeau. Rydym felly wedi defnyddio'r wal sych a'r nant i ffurfio ffin yr ystyriwn ei bod yn dilyn nodweddion daearyddol adnabyddadwy ac a fyddai'n darparu ffin sirol briodol.
4.10 Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, nodom y byddai mabwysiadu ein ffin sirol arfaethedig yn arwain at ran o ardal Cymuned Tal-y-bont ar Wysg yn ffurfio camedd cul o dir anghyfannedd i lawr at y ffin ddeheuol â Merthyr Tudful. O ystyried y problemau o ran nodi pen deheuol y ffin rhwng Cymunedau Tal-y-bont ar Wysg a Llangynidr (a nodir yn 4.9 uchod) cynigiwn newid i'r ffin sy'n defnyddio'r nant sy'n llifo o Gwm Criban. Dangosir y newid arfaethedig i'r ffin gymunedol ar y map yn Atodiad B.
4.11 Felly, roedd ein Cynigion Drafft yn argymell newid y ffin rhwng Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ardal Pontsticill.
4.12 Anfonwyd copïau o'r Cynigion Drafft ar yr holl gynghorau, cyrff a'r unigolion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 3.2 i ofyn am eu barn. Anfonwyd copi hefyd at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau cychwynnol. Hefyd, trwy hysbysiad cyhoeddus, gwahoddasom unrhyw sefydliad neu unigolyn arall a oedd â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno eu barn. Roedd copïau o'r Cynigion Drafft ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Sir Powys.
5. CRYNODEB O'R SYLWADAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
5.1 Mewn ymateb i adroddiad ein Cynigion Drafft, cawsom sylwadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Powys, Rhaglawiaeth Morgannwg Ganol ac Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys. Ystyriom yr holl sylwadau hyn yn ofalus cyn llunio ein cynigion. Ceir crynodeb o'r sylwadau hyn yn Atodiad A.
6. ASESU
6.1 Rydym wedi nodi derbyniad cyffredinol o'r newid i'r ffin rhwng Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, fel y cynigwyd yn adroddiad ein Cynigion Drafft, yn seiliedig yn bennaf ar annymunoldeb rhannu anheddiad Pontsticill, o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, rhwng dwy brif ardal. Fodd bynnag, rydym wedi nodi'r gefnogaeth barhaus i ymestyn y newid i'r ffin i gynnwys ardal sy'n cynnwys Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Dolygaer ( Atodiad C).
6.2 Nodom fod ardal Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Dolygaer yn rhan fechan yn unig o'r ardal fwy helaeth yr awgrymwyd ei chynnwys ym Merthyr Tudful, gan ei bod wedi'i lleoli cryn bellter i'r gogledd. Oherwydd lleoliad daearyddol y Ganolfan, deallwn y byddai angen cynnwys yr ardal hon i gyd pe byddai'r Ganolfan yn cael ei chynnwys ym Merthyr Tudful. Er ein bod yn derbyn y gallai cynnwys Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Dolygaer yn eu hardal fod yn fwy cyfleus i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac y gallai hyn roi mynediad i'r Ganolfan at gyllid ychwanegol, rydym o'r farn na fyddai'n ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus pe byddai'r ardal awgrymedig i gyd yn cael ei chynnwys ym Merthyr Tudful.
6.3 Rydym o'r farn o hyd ei fod yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i ran o'r ardal sy'n gyfagos at Gronfa Ddwr Pontsticill gael ei throsglwyddo o Sir Powys i Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a dylai graddau'r trosglwyddiad hwn fod fel y nodir ar y map yn Atodiad B.
7. CYNIGION
7.1 Wedi ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni, cynigiwn y dylid adlinio'r ffin rhwng Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ardal Pontsticill yn yr ardal a ddangosir yn wyrdd ar y map yn Atodiad B.
7.2 O ganlyniad:
Cynigiwn y dylid adlinio'r ffin rhwng Cymuned Tal-y-bont ar Wysg a Chymuned Llangynidr i ddilyn y ffin a ddangosir yn frown ar y map yn Atodiad B.
7.3 Gellir archwilio map manwl ar raddfa fwy sy'n dangos y ffin arfaethedig newydd yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Powys ac yn swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd.
8. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL
8.1 Dan Adran 54 (1) (e) o'r Ddeddf, gall y Comisiwn wneud cynigion i newid y trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal lywodraeth leol, o ganlyniad i unrhyw newidiadau arfaethedig i ardaloedd llywodraeth leol. Isod, ceir dadansoddiad manwl o'r newidiadau arfaethedig i'r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Sir Powys a chymunedau Faenor a Thal-y-bont ar Wysg.
Trefniadau Etholiadol Cynghorau Cymuned
8.2 Nid oes cyngor cymuned gan Gymuned Faenor ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Nid yw'r newid arfaethedig i'r ffin felly'n gofyn am wneud unrhyw newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol y gymuned hon.
8.3 Tan yn ddiweddar, roedd Cymuned Tal-y-bont ar Wysg yn Sir Powys wedi'i rhannu at ddibenion etholiadol cymunedol yn wardiau Cymunedol Llanddetty, Llanfigan a Llansantffraid, yn cael eu cynrychioli gan 4, 5 a 2 o aelodau yn y drefn honno. Fe wnaeth Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol Cymunedol) 2006, a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2007, ddileu'r trefniadau wardio a lleihau nifer yr aelodau a gynrychiolai Cymuned Tal-y-bont ar Wysg o 11 i 9. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin yn lleihau nifer yr etholwyr yng Nghymuned Tal-y-bont ar Wysg o 13 o etholwyr. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn yn nifer yr etholwyr yn teilyngu newid pellach i nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r ward hon.
8.4 Nid yw'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Tal-y-bont ar Wysg a Llangynidr yn effeithio ar unrhyw etholwyr. Nid oes angen unrhyw newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol y cymunedau hyn felly o ganlyniad i'r newid hwn.
Trefniadau Etholiadol Cynghorau Sir
8.5 Mae Rhanbarth Etholiadol Faenor Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynnwys Cymuned Faenor sydd â 2,575 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan 2 gynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin yn cynyddu nifer yr etholwyr o 13.
8.6 Mae Rhanbarth Etholiadol Cyngor Sir Powys yn cynnwys Cymunedau Glyn Tarell, Llanfrynach a Thal-y-bont ar Wysg sydd â 1,624 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin yn lleihau nifer yr etholwyr o 13.
8.7 Rydym o'r farn, ar gyfer y ddau ranbarth etholiadol uchod, nad yw'r newidiadau i nifer yr etholwyr o ganlyniad i'r newid arfaethedig i'r ffin mor sylweddol bod angen cynyddu neu leihau nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli pob rhanbarth etholiadol ar hyn o bryd.
9. CYDNABYDDIAETHAU
9.1 Hoffem ddiolch i'r prif gynghorau a'r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg hwn, ac i'r holl gyrff a'r unigolion a gyflwynodd sylwadau i ni.
10. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
10.1 Ar ôl arolygu rhan o'r ffin rhwng Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a chyflwyno ein hargymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y Ddeddf.
10.2 Llywodraeth Cynulliad Cymru fydd nawr yn penderfynu, os y gwêl yn dda, a ddylid rhoi'r argymhellion hyn ar waith gydag addasiadau neu beidio trwy gyfrwng Gorchymyn, neu gyfarwyddo'r Comisiwn i gynnal arolwg pellach.
10.3 Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau eraill ynghylch y materion yn yr adroddiad hwn at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid eu gwneud cyn gynted ag y bo modd, a heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o'r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyfeirio sylwadau at:
Y Tîm Democratiaeth Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQMRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)
MR P J WOOD (Is-gadeirydd)
PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Aelod)
E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)
Gorffennaf 2008
